Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023

 

Pwyntiau Craffu Technegol 1 i 13:

Derbynnir y pwyntiau craffu technegol. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dirymu’r Gorchymyn hwn cyn iddo ddod i rym a gwneud Gorchymyn arall i fynd i’r afael â’r pwyntiau hynny ar ddechrau 2024.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:

Mae paragraff newydd 16A yn cydnabod y bydd rhesymoldeb addasiad yn dibynnu ar amgylchiadau unigolyn, ac ar y meini prawf a nodir pan fydd yn debygol o fod yn rhesymol i addasu’r gofynion sylfaenol o ran sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhif.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

Yr ymrwymiadau polisi y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol yw’r rhai a amlinellir yn y dogfennau a ganlyn:

·         ‘Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru’ (2017) (gweler https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/cysoni%E2%80%99r-model-prentisiaethau-ag-anghenion-economi-cymru.pdf a oedd yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn 2015 (gweler https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-adroddiad-cryno-o-ymatebion-ir-ymgynghoriad-cysonir-model), a

·         ‘Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau’ (2018), a ddatblygwyd drwy ymgynghori â sefydliadau anabledd arbenigol yn dilyn adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (gweler https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-11/prentisiaethau-cynhwysol-cynllun-gweithredu-ar-anabledd-ar-gyfer-prentisiaethau-2018-21.pdf).